Great Hall Event - Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Rhapsody in Blue

Overview:

Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Pete Harrison (arweinydd)

George Fradley (piano)

Bydd Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru, sy’n cynnwys rhai o gerddorion ifanc mwyaf dawnus Cymru, yn cyflwyno detholiad disglair o glasuron modern. Yn ganolbwynt i’r rhaglen bydd perfformiad o fersiwn wreiddiol darn eiconig George Gershwin ar gyfer y piano, Rhapsody in Blue, a ysgrifennwyd ar gyfer y Paul Whiteman Band. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gweithiau gan Hesketh a McNeff, yn ogystal â Three American Icons gan Judith Bingham sy’n rhoi darlun grymus o ddiwylliant y 50au a’r 60au – y bandiau mawr, y sioeau teledu a’r ffilmiau cwlt – gyda llofruddiad Kennedy’n gefndir i’r cyfan.

Mae gan Gerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru enw da am berfformio cerddoriaeth newydd, gan roi perfformiadau cyntaf nifer o weithiau gan gyfansoddwyr blaenllaw Cymru. Bydd yn rhoi perfformiad cyntaf On This Precious Earth gan Gyfansoddwr Preswyl Tŷ Cerdd, Rhian Samuel. Mae’r darn hwn yn darlunio natur fregus ein planed, gan ddathlu harddwch y Ddaear a gorffen yn llawn gobaith, haelioni a charedigrwydd.

Dydd Gwener 21 Ebrill 7pm

Dates and Times:

Gwer 21st Ebr

7yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 10
Family price:£ 25
Under 18's:£ 5
Full time students:£ 5
Senr.Citizens:£ 7.50
Other Conc.:£ 7.50

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf