Taliesin Performances - Uplands Arts yn cyflwyno: The Sorcerer

Overview:

Mae Uplands Arts, sy’n dathlu 75 mlynedd, yn cyflwyno

The Sorcerer 

gan Gilbert a Sullivan

Mae Alexis, Arglwydd ifanc y Plas, yn defnyddio ei ddyweddïad i gyhoeddi ei farn na ddylai cariad dalu sylw i ddosbarth nac amgylchiadau. Er mwyn cynnwys y boblogaeth leol, mae'n cyflogi swynwr i weini diod cariad i’r holl bentrefwyr di-briod heb yn wybod iddynt. Nid yw'n syndod fod pethau'n mynd o’u lle’n ofnadwy... gyda cherddoriaeth ogoneddus, effeithiau dramatig a digonedd o hwyl.

Dyma’r Gilbert a Sullivan clasurol, yn cael ei berfformio gan Uplands Arts Abertawe ei hun, sydd wedi bod yn dod â pherfformiadau o safon uchel i Taliesin dros y 30 mlynedd diwethaf.

Tocynnau ar gael gan Bernadette Powell ar 01792 421261 neu aelodau'r Gymdeithas, neu yn swyddfa docynnau Taliesin ar 01792 602060.

Dydd Mercher 27 – Dydd Sadwrn 30 Medi am 7.15yh

Dates and Times:

Mer 27th Medi - Sad 30th Medi

7.15yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf