Taliesin Performances - Band Cajwn y Teulu Savoy

Overview:

Band Cajwn y Teulu Savoy

Y teulu cyntaf o gerddoriaeth Cajwn

Marc ac Ann Savoy a’u dau fab, Joel a Wilson, yw teulu cyntaf cerddoriaeth Cajwn; dydy enwogrwydd a theitlau ffansi ddim yn apelio atyn nhw. Er iddyn nhw chwarae ar rai o lwyfannau mwyaf y byd, maen nhw’n gwybod eich bod yn fwy tebygol o ganfod gwir ysbryd Cajwn yn y sesiynau jam yn ôl yng Nghanolfan Gerdd enwog Savoy yn Louisiana. Eto, mae’r ysbryd hwnnw wir yn ysbrydoli perfformiadau’r teulu ac yn treiddio drwy eu datganiadau cignoeth, nwydus ac arbenigol o beth o’r gerddoriaeth Cajwn orau yr ydych yn debygol o’i chlywed byth.

Gartref, mae’r Teulu Savoy wedi chwarae mewn digwyddiadau mawr, megis Gŵyl Werin Casnewydd, a hefyd mewn gwyliau a lleoliadau ledled y byd, gan gynnwys Neuadd y Frenhines Elizabeth yn Llundain. Mae Ann Savoy wedi ymddangos ochr yn ochr â’i meibion mewn ffilmiau yn Hollywood, ac wedi gwneud albymau, sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau Grammy, gydag, ymhlith eraill, Linda Ronstadt, Nick Lowe, a John Fogerty.

Beth am roi cynnig ar ein bwydlen arbennig ar gyfer y noson (cliciwch ar y llun isod)? Gwasanaethu rhwng  5 a 7pm. Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01792 60 20 60 i archebu eich pryd o fwyd.

Taliesin_Savoy_Cajun_thumb.jpg

Dydd Mercher 26 Gorffennaf 7.30yh

Dates and Times:

Mer 26th Gor

7.30yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf