Taliesin Performances - ROH: The Magic Flute

Overview:

Cerddoriaeth: Wolfgang Amadeus Mozart
Libreto: Lorenzo Da Ponte
Cyfarwyddwr: David McVicar
Arweinydd: Julia Jones

Mae opera odidog Mozart, The Magic Flute, yn cael ei gwireddu gan gynhyrchiad David McVicar, gyda setiau prydferth gan John Macfarlane.

Mae Tywysog Tamino yn addo i Frenhines y Nos y bydd yn achub ei merch Pamina rhag Sarastro y swynwr. Mae’n cychwyn ar ei daith, yng nghwmni Papageno, y daliwr adar – ond nid yw popeth fel yr ymddengys...

Mae cynhyrchiad clasurol David McVicar yn cynnwys difrifwch a chomedi gwaith Mozart. Trawsgludir y gynulleidfa i fyd rhyfeddol, llawn anifeiliaid sy’n dawnsio, peiriannau sy’n hedfan ac awyr serennog a disglair. Mae’r trefniant yn gefndir gwych i sgôr amryliw Mozart, gan gynnwys coloratwra ffrwydrol Brenhines y Nos, deuawdau serch telynegol Tamino a Pamina ac unawdau cynnes Papageno, ag iddynt naws gwerinol.

Yn ogystal â bod yn gomedi, mae The Magic Flute yn fynegiant o gredoau ysbrydol Mozart: mae’r Oes Oleuedig a’i chais am ddoethineb a moesau yn rhan annatod o’r chwedl hudolus hon. Roedd The Magic Flute yn llwyddiant ysgubol gan y cynulleidfaoedd ac fe’i disgrifiwyd gan Salieri, a oedd yn cael ei ystyried yn gystadleuydd i Mozart, yn ‘operone’ - opera wych.

Llun: Mark Douet.

Hyd yr Opera: 3awr 10munud (gan gynnwys 1 egwyl)

Cenir yn Almaeneg gydag uwchdeitlau Saesneg

Nos Fercher 20 Medi 7.15pm

Dates and Times:

Mer 20th Medi

7.15yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf