Taliesin Performances - The World's Wife: opera gan Tom Green

Overview:

The World's Wife

gan Tom Green & Carol Ann Duffy

Soprano: Amanda Forbes gyda'r Mavron String Quartet

We do our best,
we Queens, we mothers,
mothers of Queens

Chi'n cofio'r hen ddywediad? Y tu ôl i bob dyn enwog...? O Mrs Darwin i Queen Kong, mae casgliad barddoniaeth Carol Ann Duffy, The World's Wife yn ail-werthuso enwogion hanes a mythau o safbwynt eu gwragedd. Mae'r cyfansoddwr, Tom Green, wedi trawsnewid y cerddi herfeiddiol hyn yn opera'r unfed ganrif ar hugain, ar gyfer unawdydd soprano, pedwarawd llinynnol a phedalau dolen. Ymunwch â ni am berfformiad cyntaf gwaith gan lais operatig radical newydd, wrth i bum cerddor ar y llwyfan greu corau anghorfforol a llu o bedwarawdau llinynnol i adrodd stori rydym i gyd yn ei rhannu.

Cynhyrchiad gan Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Echo Forest a'r Mavron Quartet.

Sgwrs cyn-berfformiad gan Tom Green am 6.30yh

Cenir yn Saesneg ag uwchdeitlau Saesneg.
Hyd y perfformiad, 70 munud heb egwyl.

Nos Sadwrn 21 Hydref 7.30yh

Worlds_Wife_logo_set.jpg                Spice_logo.jpg


Dates and Times:

Sad 21st Hyd

7.30yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 12
Under 18's:£ 10
Full time students:£ 10
Senr.Citizens:£ 10
Other Conc.:£ 10

View Preview:

Manylion:

Mae The World's Wife yn opera siambr ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Gan ddefnyddio pedalau dolen i droi grŵp bach o gerddorion yn fydysawd o sain, bydd y perfformiad hwn yn adrodd hanes menywod drwy'r oesau mewn ffordd hollol newydd.

MEDDAI'R CYFANSODDWR, TOM GREEN:

Dwi am herio'r traddodiad o gosbi cymeriadau benywaidd mewn opera, llenyddiaeth, ein diwylliant etifeddol - ac mae geiriau Carol Ann Duffy yn berffaith ar gyfer mynd i'r afael â'r rhagfarnau hynafol hyn. Mae cyfansoddi ar sail pedalau dolen wedi caniatáu i lais un soprano ganu nifer o gymeriadau ar yr un pryd, i gyd yn ailadrodd eu straeon mewn ffordd danbaid. Wrth i'r pedwarawd llinynnol drawsnewid o gerddorfa linynnol yn fyddin o forgrug mecanyddol, mae cymeriadau'r soprano'n lluosi ac mae'n troi'n archdeip - Gwraig y Byd. Nid iacháu hen glwyfau yw bwriad y gwaith hwn ond tynnu sylw at gwestiynau cyfoes. Rwyf wedi ysgrifennu'r gerddoriaeth gan ddefnyddio gwaith sawl cyfansoddwr benywaidd - ai dyn arall yn dwyn gwaith menywod er ei ogoniant ei hun sydd yma? Efallai. Mae cwestiynau am ryw gyda ni o hyd, ac mae angen eu gofyn.

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf