Taliesin Performances - The Strings of Song

Overview:

The Strings of Song

Dathliad o farddoniaeth Vernon Watkins drwy bwyso a mesur ac ymateb.

‘The most profound and greatly accomplished Welshman writing poems in English’ Dylan Thomas

I nodi hanner canrif ers marwolaeth Vernon Watkins, Athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae Owen Sheers wedi gwahodd pum bardd llwyddiannus o Gymru i ysgrifennu ymateb i waith Watkins.

Dan gadeiryddiaeth yr Athro mewn Saesneg a deiliad Cadair Emyr Humphreys ar gyfer Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, M. Wynn Thomas, bydd y beirdd Rhian Edwards, Menna Elfyn, Paul Henry, Robert Minhinnick a Jonathan Edwards yn darllen ac yn trafod barddoniaeth ‘bardd arall Abertawe’ cyn rhannu eu gweithiau newydd eu hunain.

I gefnogi’r digwyddiad hwn mae’r arddangosfa; Vernon Watkins 1906-1967: Bardd Gŵyr, mewn partneriaeth â Jeff Towns, Cymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe, a Siop Lyfrau Symudol Dylan’s, yn cynnwys grŵp o gerddi llawysgrif cynnar, llythyrau gwreiddiol, rhifynnau prin o’i lyfrau, effemera a ffotograffau Vernon a’i deulu. Bydd yr arddangosfa i’w gweld rhwng dydd Sadwrn 30ain Medi a dydd Mawrth 3ydd Hydref ym mhrif lyfrgell Campws Singleton. Cyflwynir mewn cydweithrediad â Siop Lyfrau Symudol Dylan’s a’r Sefydliad Ymchwil ar gyfer y Celfyddydau a Dyniaethau.

DIGWYDDIAD AM DDIM
ond mae angen tocyn

Cyflwynir mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru

Llun drwy garedigrwydd Siop Lyfrau Dylan’s 

Nos Lun 2 Hydref 7.30pm

Dates and Times:

Llun 2nd Hyd

7.30yh

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf